Bilha

Bilha
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
Galwedigaethgweithiwr domestig Edit this on Wikidata
PriodJacob Edit this on Wikidata
PlantDan, Naphtali Edit this on Wikidata

Mae Bilha (בִּלְהָה "dibryder") yn fenyw a grybwyllir yn Llyfr Genesis.[1] Mae Genesis 29:29 [2] yn ei disgrifio fel morwyn Laban, a roddwyd i Rahel i fod yn forwyn ar adeg priodas Rahel â Jacob. Pan fethodd Rahel â chael plant, rhoddodd Bilha i Jacob fel gordderchwraig i esgor ar blant iddo.[3] Rhoddodd Bilha enedigaeth i ddau fab, yr honnodd Rachel eu bod yn blant iddi hi ei hun o'r enw Dan a Naphtali.[4]

Dywedir bod Jacob wedi cael o leiaf ddeuddeg mab gan bedair merch, ei wragedd, Lea a Rahel, a'i ordderchwragedd, Bilha a Silpa, a oedd, yn nhrefn eu genedigaeth, Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Dan, Naphtali, Gad, Asher, Issachar, Zebulun, Joseph, a Benjamin,[5] a daeth pob un ohonynt yn benaethiaid eu grwpiau teulu eu hunain, a elwid yn ddiweddarach, yn Ddeuddeg Llwyth Israel. Mae'r Beibl hefyd yn nodi enw ferch iddo, Dina.

Yn Genesis 35:22 mae sôn am fab hynaf Jacob (oedd wedi newid ei enw i Israel erbyn hynny) yn cael perthynas rhywiol llosgach gyda Bilha.[6] Oherwydd hyn rhoddwyd genedigaeth-fraint Ruben, y mab hynnaf i feibion Joseff.[7]

  1. Mathetes (1864) Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol Cyf 1 Tud 925 adalwyd 18 Awst 2020
  2. Genesis 29:29
  3. Genesis 30:3-5
  4. Genesis 35:25
  5. 1 Cronicl 2:1-2
  6. Genesis 35:22
  7. 1 Cronicl 5:1

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search